Ynys Bŷr
Dair milltir ar draws y môr oddi wrth Ddinbych y Pysgod gorwedd Ynys Bŷr gyda’i mynachlog hynafol, a gerllaw y gorwedd ei chwaer ynys sy’n noddfa i adar a morloi, Ynys y Santes Marged. Mae Mynachod o wahanol enwadau wedi bod yn byw ar Ynys Bŷr am dros 1500 o flynyddoedd. Erbyn heddiw fe berthyn yr ynys i Urdd y Sistersiaid Diwygiedig sydd wedi rhoi eu bywydau i wasanaethu Duw o fewn i’r muriau gwynion. Efallai mai’r diwylliant Cristnogol hwn sydd yn annatod â’r ynys, sydd yn rhoi amgylchedd o heddwch a thawelwch parhaol i Ynys Bŷr. Mae yma brydferthwch naturiol ac ymdeimlad o ryddid oddi wrth y bywyd masnachol sydd yn rheoli mewn cynifer o fannau twristaidd erbyn heddiw. Bydd ymweliad ag Ynys Bŷr yn aros yn y cof yn ddyfnach ac yn hirach.
Mae’r gymuned o tua 20 o fynachod heddiw yn arwain eu bywydau yn ôl rheolau llym Sant Bened, gan fynychu saith gwasanaeth mewn diwrnod yn eglwys y fynachlog gyda’r cyntaf yn dechrau am 3.15am! Yn ogystal â hyn maent yn ffermio gwartheg eidion arbennig o flasus, yn pobi bisgedi eu hunain ym mhopty'r fynachlog ac yn cynhyrchu siocled bendigedig o law. Maent hefyd wedi datblygu i gynhyrchu persawr a sebonau enwog Ynys Bŷr sydd wedi’u hysbrydoli gan y cymysgwch o flodau’r ynys, grug a pherlysiau.
Sut i gyrraedd Ynys Bŷr: Mae cychod yn rhedeg o harbwr Dinbych y Pysgod bob 15 munud rhwng 9.30am a 5.00pm Llun – Gwener, ac am 11am – 4.00pm ar ddydd Sadwrn. Gellid cael tocynnau o’r ciosg archebu ar Sgwâr y Castell uwchlaw’r harbwr