Os hoffech weld rhagor o luniau mae angen i chi lawrlwytho Flash, ac/neu alluogi ActiveX

If you would like to see more pictures you need to download Flash and/or activate ActiveX

hafan1
fflatiau
prisiau_a_bwcio
atyniadau
geirda
diwylliant
tresaith
iaith_language

Fflatiau Hafod y Môr

Mae’n rhaid bod gan Hafod y Môr un o’r lleoliadau gorau yn nhref Dinbych y Pysgod. O ddilyn stryd Crackwell bron i’w therfyn, fe’i lleolir yn gadarn uwchlaw’r harbwr. Mae bron i bob llun sy’n cynnwys harbwr Dinbych y Pysgod a’i thai lliwgar, yn cynnwys Hafod y Môr yn eu delweddau.

O’i mewn ceir pedair fflat, a gwnaed yn siwr bod ystafelloedd fyw y bedair a’u ffenestri mawrion yn wynebu ac edrych dros yr harbwr a’r arfordir. Rhennir y prif fynediad rhwng tair o’r fflatiau – Waldo, Dewi Emrys a Crwys – a cheir mynediad preifat i fflat Harbwr. Enwyd fflatiau Waldo, Dewi Emrys a Crwys ar ôl beirdd nodedig, a cheir engreifftiau o’u gweithiau wedi’u fframio yn y fflatiau.

Mae’r hyn sydd dan ddaear Dinbych y Pysgod llawn mor ddiddorol âr hyn welir uwchlaw yn y dref, oherwydd o dan y dref ceir milltiroedd o dwneli cyfrinachol. Mae un o’r twneli hyn yn rhedeg o fynediad siop Boots yn y dref o dan Hafod y Môr, a mas i’r harbwr; dywedir mai i’r lle hwn y dihangodd Henry Tudur (Brenin Henry VII y dyfodol) gyda’i ewythr Jasper Tudur, iarll Penfro yn 1471 ar eu ffordd i Ffrainc yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynau.

01239 811 565    heledd@hafodymor.com    07780 548 288