Os hoffech weld rhagor o luniau mae angen i chi lawrlwytho Flash, ac/neu alluogi ActiveX
If you would like to see more pictures you need to download Flash and/or activate ActiveX
Harbwr – cysgu 3 / 5
Ceir mynediad preifat i fflat Harbwr wrth fynd i lawr grisiau allanol y tu blaen i’r ty.
Agor y drws i goridor hir â llawr llechi gwreiddiol sydd wedi’i gadw ac sy’n diferu â hanes. Mae yma un stafell wely gyda gwely dwbl a gwely sengl, stafell gawod a stafell eang gyda chegin, man bwyta a lolfa gyda soffa wely sy’n cysgu dau, a’r lolfa’n arwain allan i’r patio a rennir gyda fflat Crwys uwchben.
Ceir celfi i’r patio y tu fas gyda golygfeydd bendigedig o’r harbwr ac o doriad gwawr.