Os hoffech weld rhagor o luniau mae angen i chi lawrlwytho Flash, ac/neu alluogi ActiveX
If you would like to see more pictures you need to download Flash and/or activate ActiveX
Dinbych y Pysgod
Does dim dwywaith bod Dinbych y Pysgod yn gyforiog â diwylliant cyfoethog. Fe’i gwelir ar bob stryd, mewn pob cilfach ac ym mhob agwedd o fywyd. Mae’r dref hon yn ogystal wedi magu nifer o enwogion, a’u hysbrydoli, pobol fel Augustus John a’i chwaer Gwen, dau artist poblogaidd; yr actor Kenneth Griffith a wnaeth fwrw ei brentisiaeth yn Ysgol Greenhill; y mathemategydd Robert Recorde a gyflwynodd i’r byd yr arwydd hafal. Mae hefyd wedi ysbrydoli nifer o ymwelwyr boed mewn darluniau, barddoniaeth neu lyfrau ee Beatrix Potter (awdures The Tale of Peter Rabbit), George Eliot (awdures Middlemarch), a Laurie Lee (awdur Cider with Rosie).
Gadewch i Ddinbych y Pysgod eich ysbrydoli chi – dewiswch aros yn un o’n fflatiau ysbrydoledig ni!