Traethau
Sir Benfro oedd y sir gafodd ei chyflwyno â’r nifer fwyaf o faneri glas drwy Brydain gyfan yn 2009, cyflwynwyd tair ohonynt i draethau Dinbych y Pysgod. Edrych Hafod y Môr ar draws draeth y gogledd a thros harbwr y dref. Dim ond 200 llath yw hi i gerdded o’r tŷ tuag at y traeth ar hyd yr heol garegog.
Ymestyn traeth y de 2km o ynys y Santes Catrin tuag at Bwynt Giltar gan edrych tuag at Ynys Bŷr, a chyda traeth y castell yn gorwedd yn fychan rhwng bryn y castell a’r clogwyn dwyreiniol - gallwch gerdded drosodd i’r ynys yn ystod llanw isel gan fod yn ofalus rhag cael eich torri bant! Traeth y gogledd yw’r traeth mwyaf poblogaidd wedi’i britho â phyllau a chyda mynediad hawdd i gyrraedd. Does dim cŵn yn cael mynd ar y traeth rhwng mis Mai hyd fis Medi.
Mae cychod yn gadael harbwr Dinbych y Pysgod am Ynys Bŷr ac am deithiau o amgylch y bae. Ceir teithiau cwch i’r rheiny ohonoch sy’n caru byd natur gan ymweld â mannau poblogaidd ar gyfer morloi www.tenbyseacruises.com. Ceir achubwyr bywydau ar y traethau yn ystod tymor yr haf (10am – 6pm). .