Parcio
Lleolir Hafod y Môr ar stryd garegog a chul sydd yn ychwanegu at ei gymeriad, ond yn anffodus ni ellir parcio ar yr heol hon. Mae croeso i chi dynnu i mewn gyferbyn i’r tŷ er mwyn llwytho a dadlwytho fodd bynnag. Rydym yn eich cynghori i barcio yn y maes parcio aml lawr sydd llai na 10 munud i gerdded iddo, ceir tocynnau am wythnos o’r peiriant docynnau am £10.80. Yn ystod gwyliau’r haf, mae stryd Crackwell sydd fel rheol yn stryd un ffordd, yn troi’n stryd ddwy ffordd gan gael ei reoli gan oleuadau traffig rhwng 11am – 5pm.
Mae canol y dref yn ystod gwyliau’r haf yn cael ei chau i holl drafnidiaeth, sydd yn ei gwneud yn haws i gerdded a’i chyfoethogi gydag awyrgylch gaffi.