hafan1
fflatiau
prisiau_a_bwcio
atyniadau
geirda
diwylliant
tresaith
iaith_language

Yr Iaith Gymraeg

Cymraeg yw un o ieithoedd hynaf Ewrop, ac yn ddigon posib yr iaith ysgrifenedig hynaf ar y cyfandir gan y gellid dyddio’n barddoniaeth gynharaf yn ôl i’r 6ed ganrif. Mae’r Gymraeg wedi bod o dan bwysau dychrynllyd ar hyd y canrifoedd, ond mae’n tyfu’n gryfach gyda phoblogrwydd ysgolion uwchradd Cymraeg, sianel deledu Cymraeg S4C, gwaith gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg a hefyd pwysau parhaol gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg sy’n gweithredu’n ddi-drais er mwyn cael statws cydradd i’r iaith o fewn Cymru.

Yn Sir Benfro fodd bynnag, mae yna ffin amlwg rhwng poblogrwydd yr iaith yng ngogledd y sir, a’i habsenoldeb cyffredinol yn ne’r sir, mae’r ffin anweladwy hyn yn cael ei hadnabod fel y Landsker. Erbyn heddiw mae llawer i’r de o’r Landsker yn mynychu ysgolion Cymraeg, ac mae’r ardal yn araf ddatblygu’n ddwyieithog.

   pysgodfflat@hotmail.com    07780 548 288