Cestyll
Mae Cymru wedi’i fritho â chestyll, mae hyn yn wir am sir Benfro hefyd yn arbennig gan bod y sir hwn â hanes eithaf cythryblus rhwng y Normaniaid, Ffleminiaid, Saeson ar y naill law â’r Cymry ar y llaw arall. Castell sydd wedi’i lleoli mewn ardal drawiadol ym Maenorbŷr sy’n sefyll uwchben yr arfordir ar hyd heolydd culion llai na 6 milltir o Ddinbych y Pysgod. Ganwyd un o haneswyr cyntaf ac enwocaf Cymru yma yn y 12fed ganrif, Giraldus Cambrensis, hanner Norman a hanner Cymro mae’n cael ei adnabod orau fel Gerallt Gymro. Man prydferth arall lle sefyll castell hardd yw Carew sydd â hanes o dros 2,000 o flynyddoedd, rhyw 7 milltir o Ddinbych y Pysgod. Mae yna groes Geltaidd yn dyddio’n ôl i’r 11eg ganrif, pont ganoloesol a’r unig felin a weithir gan y llanw sydd wedi’i hatgyweirio yng Nghymru, i gyd o fewn ardal y castell. Os mai castell yn enwog am ei hamddiffynfa yr ydych yn chwilio amdani, yna ewch ar hyd yr 11 milltir tuag at dref Penfro gyda’i chastell canoloesol cadarn. Mae tir y castell yn cael ei gadw’n ddestlus, man perffaith am ddiwrnod i’r teulu.