Barddoniaeth leol
Rydym yn falch iawn o fod wedi enwi 3 o’r fflatiau ar ol beirdd Cymraeg nodedig, beirdd oedd naill ai’n enedigol o sir Benfro neu wedi’u hysbrydoli gan y sir. Enwir y fflat fwyaf, Waldo, ar ol bardd gafodd ei eni a’i fagu yn y sir, Waldo Williams. Dyma un o feirdd yr ugeinfed ganrif mwyaf enwog drwy Gymru. Roedd hefyd yn heddychwr nodedig, ymgyrchydd lew yn erbyn rhyfel ac yn genedlaetholwr. Mae fflat Dewi Emrys wedi’i enwi ar ol y bardd carismataidd yn enedigol o Rhosycaerau, sir Benfro; a Crwys oedd enw barddol William Williams, bardd y gerdd enwog hwnnw, Melin Trefin.